Scroll down arrow

Referral endodontic services across North Wales

Gwasanaethau endodontig atgyfeirio ar draws Gogledd Cymru
Gwasanaethau endodontig atgyfeirio ar draws
Gogledd Cymru
Dr Ruth Willams is working with equipmentDr Ruth Willams is working with equipment

Achub eich gwên trwy driniaeth sianel y gwreiddyn

Mae Endomôn yn darparu pob math o driniaethau sianel y gwreiddyn drwy Ogledd Cymru. Cynigir gwasanaethau gan Dr Ruth Williams, deintydd medrus sydd wedi ymrwymo i helpu pobl i achub eu gwên.  

Sut mae’n gweithio

1

Gwneud atgyfeiriad

Gwnewch atgyfeiriad trwy lenwi ein ffurflen ar-lein. Rydym yn gweithio gyda Zivver i amgryptio o ddechrau’r broses i'r diwedd a chydymffurfio’n llawn â GDPR a HIPAA. Cedwir gwybodaeth gyfrinachol yn gyfrinachol.

2

Derbyn triniaeth

Gwneir unrhyw waith y mae angen ei wneud yn un o'n practisau. Os bydd angen i ni drafod unrhyw beth gyda chi, byddwn yn gwneud hynny drwy e-bost diogel i gadw holl ddata cleifion yn gwbl gyfrinachol a diogel.

3

Ar ôl y driniaeth

Ar ôl cwblhau'r holl waith, byddwn yn anfon hysbysiad cwblhau atoch ac yn atodi unrhyw wybodaeth berthnasol. Anfonir y rhain yn ddiogel. Gellir eu lawrlwytho a'u storio ar gyfer eich cofnodion.

DR RUTH WILLIAMS BDS, MFDS RCS (ED),MSC ENDODONTICS
DR RUTH WILLIAMS BDS, MFDS RCS (ED),MSC ENDODONTICS
am RUTH

Deintydd llawn gofal, moesegol sy'n anelu at y safon orau

Mae Ruth yn glinigydd profiadol sy’n arbenigo mewn endodonteg ym maes deintyddiaeth. Gan ganolbwyntio ar yr arbenigedd hwn, mae ganddi sgiliau arbennig i drin pob math o achosion cymhleth gan gynnwys ail-driniaethau endodontig a microlawdriniaeth.

Alla i ddim argymell Ruth ddigon. Es i i'w gweld gan fod gen i ddant oedd yn achosi problemau a phoen mawr ar ôl i sawl deintydd arall fethu â helpu. Roedd y gwaith brys cychwynnol a'r driniaeth wedyn i sianel y gwreiddyn – yr oeddwn wedi poeni llawer yn eu cylch - yn hollol ddi-boen ac mae'r dant wedi bod yn berffaith ers hynny. Diolch Ruth!!

Professor Andrew Philippides