Sefydlodd Ruth Endomôn yn 2019, sef practis deintyddol sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar driniaethau sianel y gwreiddyn. Mae gan Ruth sgiliau arbennig i drin pob math o achosion cymhleth gan gynnwys triniaethau i ail-wneud sianel y gwreiddyn a microlawdriniaeth.
Ar ôl graddio o Ysgol Ddeintyddol Lerpwl yn 2007 treuliodd Ruth nifer o flynyddoedd yn gweithio i Wasanaeth Deintyddol Cymunedol Gogledd Cymru yn gofalu am gleifion ag anghenion mwy cymhleth. Yn fuan ar ôl i'w thrydydd plentyn gael ei eni, fodd bynnag, dychwelodd i astudio gan gwblhau cwrs mewn deintyddiaeth adferol a phenderfynodd ganolbwyntio'n llwyr ar endodonteg.
Mae ganddi bellach radd meistr mewn endodonteg ac mae'n diweddaru ei gwybodaeth trwy ddilyn uwch gyrsiau endodontig yn rheolaidd, e.e. llawdriniaethau endodontig. Mae Ruth, sy’n ddeintydd moesegol ac yn benderfynol o ddarparu'r gwasanaeth gorau i bobl yng Ngogledd Cymru, yn defnyddio offer a nwyddau o’r ansawdd gorau. Nid oes cyfaddawdu o ran gofal.
Ochr yn ochr â'i gwaith o ddydd i ddydd treuliodd beth amser yn cefnogi myfyrwyr deintyddol israddedig fel darlithydd clinigol yn Ysgol Ddeintyddol Caerdydd ac yn fwy diweddar mae wedi ymuno â thîm SimplyEndo fel goruchwyliwr ar gyfer y myfyrwyr MSc.
Mae hi'n byw yn Ynys Môn gyda'i gŵr, ei thri o blant a dau gi. Mae’n mwynhau rhedeg yn gymdeithasol ac mewn cystadlaethau, ac wedi cwblhau sawl marathon dros y blynyddoedd.
Cymhwysodd Ahmed fel deintydd o 'King’s College London' yn 2020. Ers hynny, mae wedi gweithio mewn practis deintyddol cyffredinol ac wedi cael hyfforddiant pellach ymhlith adrannau amrywiol yn 'Liverpool University Dental Hospital'. Mae Ahmed hefyd wedi cwblhau ei arholiadau 'Membership of the Faculty of Dental Surgery (MFDS)' i ddod yn Aelod o 'Royal College of Surgeons' yn Lloegr.
Mae Ahmed bob amser wedi bod â diddordeb ac affinedd ym maes Endodonteg (therapi sianel y gwreiddyn). Yn 2022, dechreuodd Ahmed ei hyfforddiant arbenigol mewn Endodonteg, ar ôl cael lle ar y cwrs 'Doctorate in Dental Science (DDSC in Endodontics)' amser llawn cystadleuol 3 blynedd (DDSc mewn Endodontics) ym Mhrifysgol Lerpwl, ac ar ddiwedd y cwrs mae Ahmed yn gobeithio dod yn arbenigwr llwyddiannus mewn Endodonteg.
Yn ei amser hamdden, mae Ahmed yn mwynhau treulio amser gyda theulu a ffrindiau, yn chwarae tennis ac mae'n gefnogwr brwd o Manchester United.
Sonia yw nyrs arweiniol Endomon. Cymhwysodd fel nyrs ddeintyddol dros 30 mlynedd yn ôl ac mae wedi gweithio mewn practis preifat a GIG ac wedi treulio blynyddoedd yn y gwasanaeth deintyddol cymunedol yn gofalu am gleifion bregus.
Mae hi bellach yn gweithio’n rhan amser fel cydlynydd addysg yn trefnu cyrsiau ar gyfer gweithwyr deintyddol proffesiynol yng Ngogledd Cymru. Yr hanner arall o'i hamser mae'n gweithio fel nyrs endodontig ar gyfer Endomôn. Mae hi wedi gweithio ochr yn ochr â Ruth ers sawl blwyddyn yn darparu gofal endodontig o'r safon uchaf i gleifion. Mae hi'n nyrs ddeintyddol hynod ofalgar a diwyd, ac yn gwneud i bawb yn ei chwmni deimlo'n gartrefol.
Mae Sonia yn byw yn Ynys Môn ac yn ei hamser hamdden mae hi wrth ei bodd yn mynd am dro hir gyda’i chi a threulio amser gyda ffrindiau a theulu.
Popeth y gallech fod eisiau ei wybod am driniaeth sianel y gwreiddyn, pam fod ei angen a beth i'w ddisgwyl.
Roedd y driniaeth yn ddi-boen a chefais fy ngweld yn gyflym iawn ar ôl cael atgyfeiriad gan fy neintydd am driniaeth sianel y gwreiddyn. Roedd Ruth yn gyfeillgar iawn ac yn gwneud i mi deimlo’n gyfforddus, ac esboniodd y driniaeth gam wrth gam.