Polisi Preifatrwydd

Diweddarwyd ddiwethaf: Awst 16, 2023

Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn disgrifio ein Polisïau a'n gweithdrefnau ar gyfer casglu, defnyddio a datgelu Eich gwybodaeth pan fyddwch yn defnyddio'r Gwasanaeth ac mae’n dweud Wrthych am Eich hawliau preifatrwydd a sut mae'r gyfraith yn Eich amddiffyn.

Rydym yn defnyddio Eich data personol i ddarparu a gwella'r Gwasanaeth. Trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth, rydych yn cytuno i gasglu a defnyddio gwybodaeth yn unol â'r Polisi Preifatrwydd hwn.

Dehongli a Diffiniadau

Dehongli

Ceir diffiniad o ystyron y geiriau sy’n dechrau â phriflythyren isod. Yr un ystyr fydd i’r diffiniadau canlynol boed y geiriau’n ymddangos yn unigol neu’n lluosog.

Diffiniadau

At ddibenion y Polisi Preifatrwydd hwn:

  • Ystyr Cwcis yw ffeiliau bach sy'n cael eu gosod ar Eich cyfrifiadur, dyfais symudol neu unrhyw ddyfais arall gan wefan, sy'n cynnwys manylion eich arferion Pori ar y wefan honno ymhlith ei nifer o ddefnyddiau.
  • Mae Cwmni  (y cyfeirir ato fel naill ai "y Cwmni", "Ni" neu "Ein" yn y Cytundeb hwn) yn cyfeirio at Endomôn, 7 Y Maes, Pwllheli, LL53 5HA.
  • Ystyr Cwmni Cyswllt yw endid sy'n rheoli, yn cael ei reoli gan, neu sydd o dan reolaeth gyffredin gyda pharti, lle mae "rheolaeth" yn golygu perchnogaeth o 50% neu fwy o'r cyfranddaliadau, diddordeb ecwiti neu warantau eraill sydd â hawl i bleidleisio dros ethol cyfarwyddwyr neu awdurdod rheoli arall.
  • Ystyr Cyfrif yw cyfrif unigryw a grëwyd i Chi gael mynediad i'n Gwasanaeth neu rannau o'n Gwasanaeth.
  • Ystyr Chi yw’r unigolyn sy'n defnyddio neu sy’n cael mynediad i'r Gwasanaeth, neu'r  cwmni, neu endid cyfreithiol arall y mae’r cyfryw unigolyn yn defnyddio neu’n cael mynediad i'r Gwasanaeth ar ei ran, fel sy'n gymwys.
  • Ystyr Darparwr Gwasanaeth yw unrhyw unigolyn neu berson cyfreithiol sy'n prosesu'r data ar ran y Cwmni. Mae'n cyfeirio at gwmnïau trydydd parti neu unigolion a gyflogir gan y Cwmni i hwyluso'r Gwasanaeth, darparu'r Gwasanaeth ar ran y Cwmni, i gyflawni gwasanaethau sy'n gysylltiedig â'r Gwasanaeth neu gynorthwyo'r Cwmni i ddadansoddi sut y defnyddir y Gwasanaeth.
  • Mae Data Defnydd yn cyfeirio at ddata a gesglir yn awtomatig, naill ai a gynhyrchir trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth neu o seilwaith y Gwasanaeth ei hun (er enghraifft, faint o amser a dreulir yn ymweld â thudalen).
  • Data Personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn a adnabyddir neu y mae modd eu hadnabod.
  • Ystyr Dyfais yw unrhyw ddyfais sy'n gallu cael mynediad i'r Gwasanaeth, fel cyfrifiadur, ffôn symudol neu llechen ddigidol.
  • Mae Gwasanaeth yn cyfeirio at y Wefan.
  • Mae Gwefan yn cyfeirio at Endomon, sydd ar gael ar https://www.endomon.co.uk/.
  • Mae Gwlad yn cyfeirio at: Y Deyrnas Unedig.

Casglu a Defnyddio Eich Data Personol

Mathau o Ddata a Gasglwyd

Data Personol

Wrth ddefnyddio Ein Gwasanaeth, efallai y Byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy y gellir ei defnyddio i gysylltu â chi neu i'ch adnabod Chi. Gall gwybodaeth bersonol adnabyddadwy gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:

  • Cyfeiriad e-bost
  • Enw cyntaf a chyfenw
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad, Gwlad, Ardal, cod post, Dinas
  • Data Defnydd

Data Defnydd

Cesglir Data Defnydd yn awtomatig wrth ddefnyddio'r Gwasanaeth.

Gall Data Defnydd gynnwys gwybodaeth fel cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd eich Dyfais (e.e. cyfeiriad IP), math o borwr, fersiwn porwr, tudalennau ein Gwasanaeth yr ydych yn ymweld â nhw, amser a dyddiad Eich ymweliad, yr amser a dreulir ar y tudalennau hynny, dynodwyr dyfeisiau unigryw a data diagnostig eraill.

Pan fyddwch Chi’n cael mynediad i'r Gwasanaeth drwy ddyfais symudol, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth benodol yn awtomatig, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, y math o ddyfais symudol rydych Chi'n ei defnyddio, ID unigryw eich dyfais symudol, cyfeiriad IP Eich dyfais symudol, system weithredu Eich ffôn symudol, y math o borwr Rhyngrwyd symudol rydych Chi'n ei ddefnyddio, dynodwyr dyfeisiau unigryw a data diagnostig eraill.

Efallai y byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth y mae Eich porwr yn ei hanfon pryd bynnag y byddwch yn ymweld â'n Gwasanaeth neu pan fyddwch yn cael mynediad i'r Gwasanaeth drwy ddyfais symudol.

Technolegau Olrhain a Chwcis

Rydym yn defnyddio Cwcis a thechnolegau olrhain tebyg i olrhain y gweithgaredd ar Ein Gwefan ac i storio gwybodaeth benodol. Y technolegau olrhain a ddefnyddir yw ‘ffaglau’r we’, tagiau a sgriptiau i gasglu ac olrhain gwybodaeth ac i wella a dadansoddi Ein Gwasanaeth. Gall y technolegau Rydym yn eu defnyddio gynnwys:

  • Cwcis neu Gwcis Porwr. Ffeil fach a roddir ar Eich Dyfais yw cwci. Gallwch roi cyfarwyddyd i'ch porwr wrthod pob Cwci neu i ddangos pan fo Cwci yn cael ei anfon. Fodd bynnag, os nad ydych yn derbyn Cwcis, efallai na fyddwch yn gallu defnyddio rhai rhannau o'n Gwasanaeth. Oni bai eich bod wedi addasu gosodiad eich porwr i wrthod Cwcis, gall Ein Gwasanaeth ddefnyddio Cwcis.
  • Ffaglau’r we. Efallai y bydd rhai rhannau o'n Gwasanaeth a'n e-byst yn cynnwys ffeiliau electronig bach, sef ffaglau’r we (y cyfeirir atynt hefyd fel gifs clir, tagiau picsel, a gifs un picsel) sy'n caniatáu i'r Cwmni, er enghraifft, gyfrif defnyddwyr sydd wedi ymweld â'r tudalennau hynny neu agor e-bost ac ar gyfer ystadegau gwefannau cysylltiedig eraill (er enghraifft, cofnodi poblogrwydd adran benodol a gwirio cywirdeb system a gweinydd).

Gall cwcis fod yn gwcis "Parhaus" neu "Sesiwn." Mae Cwcis Parhaus yn aros ar eich cyfrifiadur personol neu ddyfais symudol pan fyddwch yn mynd all-lein, tra bod Cwcis Sesiwn yn cael eu dileu cyn gynted ag y byddwch yn cau Eich porwr gwe. Dysgwch fwy am gwcis ar yr erthygl ar wefan Polisi Preifatrwydd am Ddim.

Rydym yn defnyddio Cwcis Sesiwn a Pharhaus at y dibenion a nodir isod:

  • Cwcis Angenrheidiol / Hanfodol
    Math: Cwcis sesiwn
    Gweinyddir: gennym Ni
    Pwrpas: Mae'r Cwcis hyn yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau sydd ar gael trwy'r wefan i Chi ac er mwyn i chi allu defnyddio rhai o'i nodweddion. Maent yn helpu i ddilysu defnyddwyr ac atal defnydd twyllodrus o gyfrifon defnyddwyr. Heb y Cwcis hyn, ni ellir darparu'r gwasanaethau yr ydych Chi wedi gofyn amdanynt, a dim ond i ddarparu'r gwasanaethau hynny i Chi y byddwn yn defnyddio'r Cwcis hyn.
  • Polisi Cwcis / Hysbysiad Derbyn Cwcis
    Math: Cwcis Parhaus
    Gweinyddir: gennym Ni
    Pwrpas: Mae'r cwcis hyn yn nodi a yw defnyddwyr wedi derbyn y defnydd o gwcis ar y Wefan.
  • Cwcis Defnyddioldeb
    Math: Cwcis parhaus
    Gweinyddir: gennym Ni
    Pwrpas: Mae'r Cwcis hyn yn ein galluogi i gofio dewisiadau a wnewch pan fyddwch yn defnyddio'r wefan, fel cofio eich manylion mewngofnodi neu ddewis iaith. Pwrpas y Cwcis hyn yw rhoi profiad mwy personol i Chi a rhag i Chi orfod ail-nodi'ch dewisiadau bob tro y byddwch Chi’n defnyddio'r Wefan.

I gael rhagor o wybodaeth am y Cwcis yr ydym yn eu defnyddio a'ch dewisiadau o ran cwcis, edrychwch ar ein Polisi Cwcis neu adran Cwcis ein Polisi Preifatrwydd.

Defnyddio Eich Data Personol

Gall y Cwmni ddefnyddio Data Personol at y dibenion canlynol:

  • Darparu a chynnal ein Gwasanaeth, gan gynnwys monitro'r defnydd o'n Gwasanaeth.
  • Rheoli Eich Cyfrif: i reoli Eich cofrestriad fel defnyddiwr y Gwasanaeth. Gall y Data Personol a ddarperir gennych Chi roi mynediad i chi at wahanol rannau'r Gwasanaeth sydd ar gael i Chi fel defnyddiwr cofrestredig.
  • Ar gyfer cyflawni contract: datblygu, cydymffurfio ac ymgymryd â'r contract prynu ar gyfer y nwyddau, yr eitemau neu'r gwasanaethau rydych wedi'u prynu neu unrhyw gontract arall gyda Ni drwy'r Gwasanaeth.
  • I gysylltu â chi: I gysylltu â chi drwy e-bost, galwadau ffôn, SMS, neu fathau cyfatebol eraill o gyfathrebu electronig, megis hysbysiadau gwthio ar ffonau symudol sy’n rhoi diweddariadau neu wybodaeth sy'n gysylltiedig â swyddogaethau, nwyddau neu wasanaethau dan gontract, gan gynnwys y diweddariadau diogelwch, pan fo angen neu'n rhesymol i'w gweithredu.
  • Rhoi newyddion, cynigion arbennig a gwybodaeth gyffredinol i Chi am nwyddau, gwasanaethau a digwyddiadau eraill yr ydym yn eu cynnig sy'n debyg i'r rhai yr ydych eisoes wedi'u prynu neu holi amdanynt oni bai eich bod wedi dewis peidio â derbyn gwybodaeth o'r fath.
  • Rheoli Eich ceisiadau: I roi sylw i’ch ceisiadau i Ni, a’u rheoli nhw.
  • Ar gyfer trosglwyddiadau busnes: Efallai y byddwn yn defnyddio Eich gwybodaeth i werthuso neu uno, gwaredu, ailstrwythuro, ad-drefnu, diddymu, neu werthu neu drosglwyddo rhai neu'r cyfan o'n hasedau, boed hynny fel busnes gweithredol neu fel rhan o fethdaliad, diddymiad, neu achos tebyg, lle mae Data Personol a gedwir gennym Ni am ein defnyddwyr Gwasanaeth ymhlith yr asedau a drosglwyddir.
  • At ddibenion eraill: Efallai y byddwn yn defnyddio Eich gwybodaeth at ddibenion eraill, megis dadansoddi data, nodi tueddiadau defnydd, pennu effeithiolrwydd ein hymgyrchoedd hyrwyddo ac i werthuso a gwella ein Gwasanaeth, cynhyrchion, gwasanaethau, marchnata a'ch profiad.

Efallai y byddwn yn rhannu Eich gwybodaeth bersonol yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • Gyda Darparwyr Gwasanaeth: Efallai y byddwn yn rhannu Eich gwybodaeth bersonol â Darparwyr Gwasanaeth i fonitro a dadansoddi'r defnydd o'n Gwasanaeth, i gysylltu â Chi.
  • Ar gyfer trosglwyddiadau busnes: Efallai y byddwn yn rhannu neu'n trosglwyddo Eich gwybodaeth bersonol mewn cysylltiad â, neu wrth drafod, unrhyw uno, gwerthu asedau’r Cwmni, ariannu, neu gaffael y cyfan neu gyfran o'n busnes i gwmni arall.
  • Gyda Chwmnïau Cyswllt: Efallai y byddwn yn rhannu Eich gwybodaeth gyda'n cwmnïau cyswllt, ac os felly byddwn yn ei gwneud yn ofynnol iddynt anrhydeddu'r Polisi Preifatrwydd hwn. Mae ein cwmnïau cyswllt yn cynnwys Ein rhiant gwmni ac unrhyw is-gwmnïau eraill, partneriaid menter ar y cyd neu gwmnïau eraill yr ydym yn eu rheoli neu sydd o dan reolaeth gyffredin gyda Ni.
  • Gyda phartneriaid busnes: Efallai y byddwn yn rhannu Eich gwybodaeth gyda'n partneriaid busnes i gynnig nwyddau, gwasanaethau neu gynigion penodol i Chi.
  • Gyda defnyddwyr eraill: Pan fyddwch yn rhannu gwybodaeth bersonol neu'n rhyngweithio fel arall yn y mannau cyhoeddus â defnyddwyr eraill, gall pob defnyddiwr weld gwybodaeth o'r fath a gellir ei dosbarthu'n gyhoeddus y tu allan.
  • Gyda'ch caniatâd Chi: Efallai y byddwn yn datgelu Eich gwybodaeth bersonol at unrhyw ddiben arall gyda'ch caniatâd Chi.

Cadw eich Data Personol

Bydd y Cwmni yn cadw Eich Data Personol cyhyd ag sy'n angenrheidiol at y dibenion a nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn. Byddwn yn cadw ac yn defnyddio Eich Data Personol i'r graddau sy'n angenrheidiol i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol (er enghraifft, os yw'n ofynnol i ni gadw eich data i gydymffurfio â deddfau perthnasol), datrys anghydfodau, a gorfodi ein cytundebau a'n polisïau cyfreithiol.

Bydd y Cwmni hefyd yn cadw Data Defnydd at ddibenion dadansoddi mewnol. Yn gyffredinol, cedwir Data Defnydd am gyfnod byrrach o amser, ac eithrio pan ddefnyddir y data hwn i gryfhau diogelwch neu i wella’r modd y ein Gwasanaeth yn gweithio, neu pan fo’n ofynnol yn gyfreithiol i Ni gadw'r data hwn am gyfnodau hirach.

Trosglwyddo eich Data Personol

Mae eich gwybodaeth, gan gynnwys Data Personol, yn cael ei phrosesu yn swyddfeydd gweithredu'r Cwmni ac mewn unrhyw fannau eraill lle mae'r partïon sy'n ymwneud â'r prosesu wedi'u lleoli. Mae'n golygu y gellir trosglwyddo'r wybodaeth hon i — a'i chadw ar — gyfrifiaduron sydd wedi'u lleoli y tu allan i'ch rhanbarth, ardal, gwlad neu awdurdodaeth lywodraethol arall lle gall y deddfau diogelu data fod yn wahanol i'r rhai o'ch awdurdodaeth Chi.

Mae eich caniatâd i'r Polisi Preifatrwydd hwn ac yna’r cyfryw wybodaeth a gyflwynir gennych Chi yn cynrychioli eich cytundeb i'r trosglwyddiad hwnnw.

Bydd y Cwmni yn cymryd pob cam rhesymol angenrheidiol i sicrhau bod Eich data yn cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â'r Polisi Preifatrwydd hwn ac ni fydd unrhyw drosglwyddiad o'ch Data Personol yn digwydd i sefydliad neu wlad oni bai bod rheolaethau digonol ar waith, gan gynnwys Diogelwch eich data a gwybodaeth bersonol arall.

Dileu eich Data Personol

Mae gennych yr hawl i ddileu neu ofyn i Ni helpu i ddileu'r Data Personol yr ydym wedi'i gasglu amdanoch chi.

Efallai y bydd ein Gwasanaeth yn rhoi'r gallu i chi ddileu gwybodaeth benodol amdanoch Chi o'r Wefan.

Gallwch ddiweddaru, diwygio neu ddileu eich gwybodaeth ar unrhyw adeg trwy fewngofnodi i'ch Cyfrif, os oes gennych un, ac ymweld â'r adran gosodiadau cyfrif lle gallwch reoli Eich gwybodaeth bersonol. Gallwch hefyd gysylltu â Ni i ofyn am fynediad at, cywiro neu ddileu unrhyw wybodaeth bersonol yr ydych wedi'i rhoi i Ni.

Sylwer, fodd bynnag, efallai y bydd angen i Ni gadw gwybodaeth benodol pan fydd gennym rwymedigaeth gyfreithiol neu sail gyfreithlon dros wneud hynny.

Datgelu eich Data Personol

Trafodion Busnes

Os yw'r Cwmni yn uno, caffael neu werthu asedau, gallai Eich Data Personol gael ei drosglwyddo. Byddwn yn rhoi rhybudd cyn i'ch Data Personol gael ei drosglwyddo a dod yn destun Polisi Preifatrwydd gwahanol.

Gorfodi'r gyfraith

O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd yn ofynnol i'r Cwmni ddatgelu Eich Data Personol os yw'n ofynnol iddo wneud hynny yn ôl y gyfraith neu mewn ymateb i geisiadau dilys gan awdurdodau cyhoeddus (e.e. llys neu asiantaeth o'r llywodraeth).

Gofyniadau cyfreithiol eraill

Gallai’r Cwmni ddatgelu eich Data Personol a chredu’n ddiffuant bod angen gweithredu o'r fath er mwyn:

  • Cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol.
  • Amddiffyn a diogelu hawliau neu eiddo'r Cwmni.
  • Atal neu ymchwilio i gamweddau posibl mewn cysylltiad â'r Gwasanaeth.
  • Diogelu diogelwch personol defnyddwyr y Gwasanaeth neu'r cyhoedd.
  • Amddiffyn rhag atebolrwydd cyfreithiol.

Diogelwch eich Data Personol

Mae diogelwch Eich Data Personol yn bwysig i ni, ond cofiwch nad oes unrhyw ddull o drosglwyddo dros y Rhyngrwyd, na dull storio electronig yn 100% ddiogel. Er ein bod yn ymdrechu i ddefnyddio dulliau sy'n dderbyniol yn fasnachol i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu ei ddiogelwch llwyr.

Preifatrwydd Plant

Nid yw ein Gwasanaeth yn cyfeirio at unrhyw un o dan 13 oed. Nid ydym yn casglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy yn fwriadol gan unrhyw un o dan 13 oed. Os ydych Chi'n rhiant neu'n warcheidwad ac yn ymwybodol bod eich plentyn wedi darparu Data Personol i Ni, cysylltwch â Ni. Os byddwn yn dod yn ymwybodol ein bod wedi casglu Data Personol gan unrhyw un o dan 13 oed heb wirio caniatâd rhieni, Rydym yn cymryd camau i ddileu'r wybodaeth honno o'n gweinyddwyr.

Os oes angen i Ni ddibynnu ar gydsyniad fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu Eich gwybodaeth a bod eich gwlad angen caniatâd gan riant, efallai y byddwn angen caniatâd Eich rhieni cyn i ni gasglu a defnyddio'r wybodaeth honno.

Dolenni i wefannau eraill

Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill nad ydynt yn cael eu gweithredu gennym Ni. Os ydych yn clicio ar ddolen trydydd parti, cewch Eich cyfeirio at y wefan trydydd parti hwnnw. Rydym yn Eich cynghori'n gryf i edrych ar Bolisi Preifatrwydd pob safle rydych chi'n ymweld â nhw.

Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys, polisïau preifatrwydd nac arferion unrhyw wefannau neu wasanaethau trydydd parti.

Newidiadau i'r Polisi Preifatrwydd hwn

Efallai y byddwn yn diweddaru Ein Polisi Preifatrwydd o bryd i'w gilydd. Byddwn yn Eich hysbysu o unrhyw newidiadau trwy bostio'r Polisi Preifatrwydd newydd ar y dudalen hon.

Byddwn yn rhoi gwybod i Chi trwy e-bost a / neu hysbysiad amlwg ar Ein Gwasanaeth, cyn i'r newid ddod yn weithredol a byddwn yn diweddaru'r dyddiad "Diweddarwyd ddiwethaf" ar frig y Polisi Preifatrwydd hwn.

Fe'ch cynghorir i edrych ar y Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd i weld a oes unrhyw newidiadau. Mae newidiadau i'r Polisi Preifatrwydd hwn yn weithredol pan gânt eu postio ar y dudalen hon.

Cysylltu â Ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Polisi Preifatrwydd hwn, gallwch gysylltu â Ni:

ruth@endomon.co.uk